yma o hyd

yma o hyd

Download yma o hyd Ringtone

yma o hyd ringone

yma o hyd video

yma o hyd lyrics

Dwyt ti’m yn cofio Macsen,
Does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd
Yn amser rhy hir i’r cof;
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru
Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A’n gadael yn genedl gyfan
A heddiw: wele ni!
Ry’n ni yma o hyd,
Ry’n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry’n ni yma o hyd.
Ry’n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry’n ni yma o hyd.
Chwythed y gwynt o’r Dwyrain,
Rhued y storm o’r môr,
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau’r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw’r fagddu o’n cwmpas
Ry’n ni’n barod am doriad y wawr!
Cofiwn i Facsen Wledig
Adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd
‘Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn!’
Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd,
Er gwaetha ‘rhen Fagi a’i chriw
Byddwn yma hyd ddiwedd amser
A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
Composer: dafydd iwan 

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*
*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.